Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r hafdy bach hwn yn dod o dir Castell Caerdydd. Tua 1880, roedd Trydydd Ardalydd Bute, a oedd yn eithriadol o gyfoethog, wrthi'n gweithio ar raglen adeiladu enfawr yng Nghaerdydd. Trefnodd i'r pensaer athrylithgar, William Burges, adfer Castell Coch a Chastell Caerdydd a oedd wedi dechrau dadfeilio, a'u troi'n ffoleddau addurniadol unigryw. Mae manylion pensaernïol yr adeilad hwn yn awgrymu efallai mai Burges ei hunan neu ei gynorthwyydd William Frame a'i dyluniodd. Frame oedd yr un a orffennodd y gwaith ar Gastell Coch ar ôl i Burges farw ym 1881. Roedd yr adeilad wedi'i symud a'i ail-godi o leiaf unwaith cyn ei roi'n rhodd i'r Amgueddfa ym 1987.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.