Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Clock
Ei ddiddordeb mewn celf Geltaidd a ysbrydolodd Archibald Knox (1864-1933) wrth iddo ddylunio’r cloc hwn. Mae’r siâp yn adlais o waelod croes Geltaidd tra bod y gwaith enamlo ar y deial yn gyfeiriad at y defnydd o enamel mewn gwaith metel Celtaidd hynafol. Roedd Knox yn un o fawrion y mudiad Art Nouveau Prydeinig. Mae amlinell grom gynnil y cloc a’r motiff blodau wedi’i stampio yn nodweddiadol o’i ddyluniadau Celtaidd ar gyfer Liberty, ac mae Art Nouveau Prydeinig yn cael ei alw’n 'Arddull Liberty' o ganlyniad i hyn.