Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Astudiaeth o Goedwigwr
Braslun o bwnc a drinir yn aml gan Barker. Mae cyflwr anorffenedig y llun yn dangos sut mae'r arlunydd yn defnyddio cefndir brown cynnes i roi lliw canol lle byddai'n tynnu bras amlinellau'n gyflym – fel yn y ffigwr ar y chwith. Ym 1813 cyhoeddwyd braslun inc o'r prif ffigwr mewn portffolio lithograffaidd o ddarluniau Barker o dan y teitl 'Impressions of Rustic Figures after Nature.'
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.