Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r grwp hwn o ddysglau yn rhan o set 160 darn a gomisiynwyd gan Syr Watkin Williams-Wynn ar gyfer ei dy newydd ar Sgwâr St James yn Llundain. Dyluniwyd nifer o’r siapau gan Robert a James Adam, a dyma’r set lestri fwyaf a phwysicaf i gael ei dylunio gan bensaer yn y ddeunawfed ganrif. Gwasgarwyd y llestri dros amser ond mae nifer o ddarnau bellach yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Roedd ynddi ddysglau gweini crwn a hirgrwn, pedair dysgl gawl, deuddeg dysgl saws a phedair canhwyllbren, yn ogystal â phlatiau a llestri halen. Costiodd y cyfan £2,408 a 18 swllt, oedd yn swm anferth ar y pryd.