Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Porthladd Normanaidd
Mab i beintiwr môn-ddarluniau enwog oedd Isabey, a byddai’n gweithio'n bennaf fel peintiwr a lithograffydd morluniau a golygfeydd o’r arfordir yn Normandi a Llydaw. Daeth o dan ddylanwad Richard Parkes Bonington, ac roedd yn gyfaill i Eugène Delacroix; bu Eugène Boudin yn un o'i fyfyrwyr. Bu Isabey yn arddangos ei waith yn y Salon o 1824 ymlaen, gan ennill y Légion d’honneur ym 1832.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.