Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Baby's frock
Ffrog lawnt gotwm wen i fabi, gyda gwasg uchel, gyddflin sgwâr, sgert lawn a llewys byr. Mae'r bodis wedi'i drimio â phaneli o les llaw sy'n cynnwys meillion a rhosod coch, gyda motiffau blodau gwyn o amgylch y gyddflin. Mae dwy res o dyciau pin ar hyd bob llawes, gyda phanel o les rhyngddynt. Mae tyciau pin ar hyd y sgert hefyd a'r cyffiau wedi'u haddurno â les. Gwnaed gan leianod o Wlad Belg oedd yn ffoaduriaid yng Nghasnewydd, Gwent, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.