Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Syr Roger Mostyn (1673-1734)
Bu Syr Roger Mostyn, y trydydd farwnig o Neuadd Mostyn, Sir y Fflint, yn Aelod Seneddol am dri deg tri o flynyddoedd ac roedd yn un o brif dirfeddianwyr y gogledd. Yn y darlun hwn, mae'n cuddio"i law chwith yn ei gôt gan feddalu ei ystum ffurfiol a thynnu sylw at y defnydd moethus. Priododd clwyd â'r Fonesig Essex Finch, merch Iarll Winchilsea a Nottingham ym 1703. Roedd yn Dori ac yn gefnogwr i Dŷ Hanover. Ar ôl i Siôr ddod i'r orsedd aeth yn Chwig fel ei dad-yng-nghyfraith. Ganed yr arlunydd Godfrey Kneller yn Lübeck, yr Almaen, ac ymgartrefodd yn Llundain ym 1676. Daeth y hynod lwyddiannus a chafodd ddylanwad mawr ar lawer o arlunwyr diweddarach Prydain.