Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ganed Tish Murtha yn ardal South Shields yn 1956, y drydedd o ddeg o blant. Astudiodd ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Casnewydd o dan arweiniad y ffotograffydd David Hurn. Ar ôl ei hastudiaethau, dychwelodd i ogledd ddwyrain Lloegr i ddogfennu'r amddifadedd mae cymunedau yn Newcastle upon Tyne yn ei brofi. Roedd yr ardal ddiwydiannol hon a fu’n llewyrchus unwaith yn un o’r rhai a gafodd ei tharo waethaf ym Mhrydain yn ystod blynyddoedd dad-ddiwydiannu Thatcher, wrth i dlodi, tai gwael a diweithdra gynyddu. Mae’r ffotograff hwn yn amlygu cyflwr y cenedlaethau iau a ddioddefodd yn fawr yn ystod y cyfnod hwn, a’r empathi a rennir rhwng Murtha a’i phynciau.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.