Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cafodd Jagger ei hyforddi fel engrafiwr metel ac enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Brenhinol ym 1907. Cafodd ei niweidio'n ddifrifol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae i'w gofebau rhyfel ryw rym a chydymdeimlad unigryw. Byddai Edward, Tywysog Cymru (1894-1972) yn edmygu ei waith yn fawr iawn. Mae'r portread anffurfiol, cain hwn yn dangos cydbwysedd manwl rhwng realaeth a delfrydedd. Cafodd ei gomisiynu gan yr Arglwydd Esher a'i arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1923. Roedd Syr William Goscombe John yn gyfaill i Jagger a phrynodd y cast yn ei arddangosfa goffa ym 1935.