Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mabwysiadodd Syr Watkin Williams (1693-1749), y trydydd barwnig, yr enw Wynn ym 1719 ar ôl etifeddu'r ystadau yn Wynnstay, Sir Ddinbych, lle bu'n AS yn ddi-dor bron o 1716-1749. Roedd yn Geidwadwr ac yn Jacobydd, ac oherwydd ei boblogrwydd a'i gyfoeth roedd yn ddylanwadol iawn yn y Gogledd. Roedd gan ei fab, yr oedd iddo'r un enw, fwy o ddiddordeb yn y celfyddydau na mewn gwleidyddiaeth. Roedd Hudson yn bortreadydd ffasiynol yn Llundain a chynhyrchai ddarluniau ffurfiol gorffenedig iawn.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.