Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirlun gyda Sant Philip yn bedyddio'r Eunuch
Yn y darlun hwn gwelir tirlun gyda'r hwyr a'r apostol Philip yn bedyddio'r eunuch o Ethiopia. Wrth ddychwelyd yn ei gerbyd o Jerwsalem i Ethiopia cyfarfu eunuch llys â'r apostol Philip, a'i darbwyllodd fod proffwydoliaethau Eseia yn yr Hen Destament wedi eu gwireddu ym mywyd a marwolaeth Crist (actiau'r apostolion VII, 26-38).
Cafodd y llun hwn a'i gymar Crist yn ymddangos i 'Mair Magdalen ar Fore'r Pasg' (yn Frankfurt) eu peintio i'r Cardinal Fabrizio Spada ym 1678. Roedd swyddogaeth genhadol Sant Philip yn cyd fynd ag ymdrechion y Cardinal i wrthsefyll Protestaniaeth. Gwelir gwahanol adegau o'r dydd yn y ddau lun: yma mae'n dechrau nosi, ac yn y llall mae'n fore.
Er bod stori yn destun i'r peintiad, y tirlun sy'n cael y lle blaenaf. Ymgartrefodd Claude yn Rhufain lle perffeithiodd ddelfrydiaeth - arddull o beintio tirluniau lle gosodir natur mewn trefn ofalus. Roedd darluniau Claude yn arbennig o boblogaidd ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif. Roedd Cymro, Richard Wilson, yn ei edmygu'n fawr.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.