Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae gosodwaith Anna Boghiguian yn archwilio’r diwydiant dur yn India a de Cymru, yn bennaf o safbwynt gweithwyr a’r frwydr i sefydlu eu hawliau. Mae'r gosodwaith, a gafodd ei ddatblygu ar gyfer dwy oriel yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys cerflunwaith, ffotograffiaeth, darlunio a phaentio. Mae’r waliau wedi'u paentio â lliw glas, magenta a melyn bywiog – lliwiau sy'n ysgogi atgofion am brosesau gwneud dur a dillad llachar y gweithwyr.
Mae nenbont ddur – a wnaed mewn partneriaeth â’r gweithiwr metel diwydiannol a’r artist Angharad Pearce Jones – yn croesi gofod yr oriel ac yn cynnal portreadau silwét o weithwyr dur Port Talbot.