Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae cyfres Cerdded yn Rhufain gan Catrin Webster yn cofnodi’i hargraffiadau o gyfres o eiliadau drwy amser. Mae’r lliwiau a’r siapiau yn y gwaith hwn yn cyfleu’r profiad dynol cyffredinol o’r cydadwaith rhwng symudiad, golau, lliw a’n canfyddiad gofodol ni ein hunain o’r endidau amrywiol hyn. Mae’r artist yn disgrifio’r gwaith fel “Eiliadau diflanedig, y cysylltiad anniriaethol ond hollol ddirdynnol â lle, a welir ac a brofir wrth deithio drwyddo; cipolwg, rhywbeth a deimlir ond heb sylwi arno’n llawn; mae pethau sy’n bodoli y tu hwnt i lun neu rendrad ffotograffig, yn disgyn ar wyneb y paentiadau.”