Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Addoli ar ôl Genedigaeth
Ganed Griffith yn Rhuthun yng Nghlwyd a bu'n astudio yn Lerpwl, Chelsea a'r Coleg Celf Brenhinol. Ar ôl bod yn dysgu yn Rhuthun a Dover, penodwyd hi'n ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Anaml y byddai'n arddangos ei gwaith ac nid yw'n adnabyddus iawn. Mae'r cyfansoddiad gorffenedig iawn hwn yn ein hatgoffa o weithiau ffresgo'r Eidal yn y bymthegfed ganrif a pheintiadau crefyddol Stanley Spencer.