Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

The Blind Welsh Harper

PARRY, John Orlando (1812-1865? NMW card index cites above dates. Trained as a singer in Italy, produced comic sketches and many sketchbooks)

Mae telynor dall tlawd yn eistedd ar fainc, ei delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ci wrth ei ochr. Wedi'u gwasgaru o'i amgylch mae rhywfaint o eiddo: ffon gerdded, pâr o fenig, a dau fath o ebill i diwnio’r delyn. Mae poster wedi'i rolio dan y fainc yn awgrymu ei fod yn cystadlu, neu wedi bod yn cystadlu, mewn Eisteddfod. Mae telyn fechan wedi'i phinio i'w siaced. Roedd y rhain weithiau'n cael eu rhoi fel gwobrau yn yr Eisteddfod ar gyfer perfformiadau ar y delyn. Wrth ei ochr ar y fainc mae jwg cwrw o grochenwaith caled a elwir yn 'jwg hela' gan eu bod yn aml yn cael eu haddurno â golygfeydd hela gwledig. Mae’r jwg yn awgrymu dathliadau - er nad yw'r telynor yma yn edrych yn llawen iawn! Roedd telynau'n aml yn cael eu canu mewn tafarndai, yn yr awyr agored, ac mewn eisteddfodau fel cyfeiliant ar gyfer dawnsio, canu ac adrodd. Ond erbyn y 19eg ganrif, roedd y delyn deires yn llai poblogaidd, er i Arglwyddes Llanofer ac eraill geisio adfywio'r traddodiad.⁠ ⁠ Roedd rhai pobl yn beio anghydffurfwyr piwritanaidd am y dirywiad ym mhoblogrwydd y delyn, am iddynt lywio pobl i ffwrdd o bleserau synhwyraidd 'pechadurus' fel cerddoriaeth a dawnsio. Yn 1802, ysgrifennodd Edward Jones 'mae Cymru, a oedd yn un o wledydd hapusaf y byd gynt, ar ei ffordd i fod y diflasaf'. Canu'r delyn oedd un o'r ychydig opsiynau ar gael i bobl ddall adeg hynny. Tua 1823, sefydlwyd cymdeithas yn Aberhonddu i ddysgu bechgyn dall i ganu'r delyn deires. Roedd hyn yn ymgais i adfywio traddodiad y delyn deires, yn ogystal ag ymgais i roi modd i bobl ddall gynnal eu hunain. Ond tlawd a fu llawer o delynorion dall. Mae hyn yn bwydo mewn i gysylltiadau ystrydebol rhwng dallineb a thlodi, dirywiad cymdeithasol a cholled. O dan y llun, mae dyfyniad o Caniad y Gog i Feirionydd, alaw werin boblogaidd gan y bardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn). ⁠⁠ Ar waelod y dudalen mae'r geiriau 'Telyn Fwyn Cymru', wedi'u hysgrifennu yn yr wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Roedd yr artist John Orlando Parry hefyd yn gerddor, ac yn ddigrifwr poblogaidd. Wedi'i annog gan ei dad, John Parry (Bardd Alaw), roedd hefyd wedi dysgu i ganu'r delyn. Cyfrannodd y ddau ddyn lawer at fywyd diwylliannol Cymreig ac roeddent yn gefnogwyr brwd o'r Eisteddfod. Yn 1838, cyhoeddodd Bardd Alaw lyfr, The Welsh Harper. ⁠⁠Mae'n bosibl y bwriadwyd y braslun hwn fel llun ar gyfer y llyfr, er nad aeth y dyluniad i'r wasg.

The Blind Welsh Harper
Delwedd: © Amgueddfa Cymru
 Chwyddo  

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 3406

Creu/Cynhyrchu

PARRY, John Orlando
Dyddiad:

Mesuriadau

Uchder (cm): 49.9
Lled (cm): 38.7
Uchder (in): 19
Lled (in): 15

Techneg

watercolour, ink with gum on paper laid on linen

Deunydd

watercolour
ink
gum
Paper
linen

Lleoliad

In store

Categorïau

Darlun | Drawing Gweithiau ar bapur | Works on paper Celf Gain | Fine Art 08_CADP_Nov_21 Portread | Portrait Telyn | Harp Ci | Dog Pobl ag anabledd | People with disability Dyn | Man Cerddor | Musician CADP content
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

John Parry Playing the Harp
Celf

John Parry playing the harp

PARRY, William
NMW A 5483
Mwy am yr eitem hon
John Parry Playing the Harp
Celf

John Parry playing the harp

PARRY, William
NMW A 5482
Mwy am yr eitem hon
Raglan Castle, the Gateway
Celf

Raglan Castle, the Gateway

PARRY, John Orlando
NMW A 19982
Mwy am yr eitem hon
The Blind Harpist, John Parry (1710?-1782)
Celf

Y Telynor Dall, John Parry (bu f.1782)

PARRY, William
NMW A 3979
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Polisi Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯