Mae telynor dall tlawd yn eistedd ar fainc, ei delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ci wrth ei ochr. Wedi'u gwasgaru o'i amgylch mae rhywfaint o eiddo: ffon gerdded, pâr o fenig, a dau fath o ebill i diwnio’r delyn. Mae poster wedi'i rolio dan y fainc yn awgrymu ei fod yn cystadlu, neu wedi bod yn cystadlu, mewn Eisteddfod. Mae telyn fechan wedi'i phinio i'w siaced. Roedd y rhain weithiau'n cael eu rhoi fel gwobrau yn yr Eisteddfod ar gyfer perfformiadau ar y delyn. Wrth ei ochr ar y fainc mae jwg cwrw o grochenwaith caled a elwir yn 'jwg hela' gan eu bod yn aml yn cael eu haddurno â golygfeydd hela gwledig. Mae’r jwg yn awgrymu dathliadau - er nad yw'r telynor yma yn edrych yn llawen iawn! Roedd telynau'n aml yn cael eu canu mewn tafarndai, yn yr awyr agored, ac mewn eisteddfodau fel cyfeiliant ar gyfer dawnsio, canu ac adrodd. Ond erbyn y 19eg ganrif, roedd y delyn deires yn llai poblogaidd, er i Arglwyddes Llanofer ac eraill geisio adfywio'r traddodiad.⁠ ⁠ Roedd rhai pobl yn beio anghydffurfwyr piwritanaidd am y dirywiad ym mhoblogrwydd y delyn, am iddynt lywio pobl i ffwrdd o bleserau synhwyraidd 'pechadurus' fel cerddoriaeth a dawnsio. Yn 1802, ysgrifennodd Edward Jones 'mae Cymru, a oedd yn un o wledydd hapusaf y byd gynt, ar ei ffordd i fod y diflasaf'. Canu'r delyn oedd un o'r ychydig opsiynau ar gael i bobl ddall adeg hynny. Tua 1823, sefydlwyd cymdeithas yn Aberhonddu i ddysgu bechgyn dall i ganu'r delyn deires. Roedd hyn yn ymgais i adfywio traddodiad y delyn deires, yn ogystal ag ymgais i roi modd i bobl ddall gynnal eu hunain. Ond tlawd a fu llawer o delynorion dall. Mae hyn yn bwydo mewn i gysylltiadau ystrydebol rhwng dallineb a thlodi, dirywiad cymdeithasol a cholled. O dan y llun, mae dyfyniad o Caniad y Gog i Feirionydd, alaw werin boblogaidd gan y bardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn). ⁠⁠ Ar waelod y dudalen mae'r geiriau 'Telyn Fwyn Cymru', wedi'u hysgrifennu yn yr wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Roedd yr artist John Orlando Parry hefyd yn gerddor, ac yn ddigrifwr poblogaidd. Wedi'i annog gan ei dad, John Parry (Bardd Alaw), roedd hefyd wedi dysgu i ganu'r delyn. Cyfrannodd y ddau ddyn lawer at fywyd diwylliannol Cymreig ac roeddent yn gefnogwyr brwd o'r Eisteddfod. Yn 1838, cyhoeddodd Bardd Alaw lyfr, The Welsh Harper. ⁠⁠Mae'n bosibl y bwriadwyd y braslun hwn fel llun ar gyfer y llyfr, er nad aeth y dyluniad i'r wasg. - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

Gweld ein Polisi Cwcis
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Mae telynor dall tlawd yn eistedd ar fainc, ei delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ci wrth ei ochr. Wedi'u gwasgaru o'i amgylch mae rhywfaint o eiddo: ffon gerdded, pâr o fenig, a dau fath o ebill i diwnio’r delyn. Mae poster wedi'i rolio dan y fainc yn awgrymu ei fod yn cystadlu, neu wedi bod yn cystadlu, mewn Eisteddfod. Mae telyn fechan wedi'i phinio i'w siaced. Roedd y rhain weithiau'n cael eu rhoi fel gwobrau yn yr Eisteddfod ar gyfer perfformiadau ar y delyn. Wrth ei ochr ar y fainc mae jwg cwrw o grochenwaith caled a elwir yn 'jwg hela' gan eu bod yn aml yn cael eu haddurno â golygfeydd hela gwledig. Mae’r jwg yn awgrymu dathliadau - er nad yw'r telynor yma yn edrych yn llawen iawn! Roedd telynau'n aml yn cael eu canu mewn tafarndai, yn yr awyr agored, ac mewn eisteddfodau fel cyfeiliant ar gyfer dawnsio, canu ac adrodd. Ond erbyn y 19eg ganrif, roedd y delyn deires yn llai poblogaidd, er i Arglwyddes Llanofer ac eraill geisio adfywio'r traddodiad.⁠ ⁠ Roedd rhai pobl yn beio anghydffurfwyr piwritanaidd am y dirywiad ym mhoblogrwydd y delyn, am iddynt lywio pobl i ffwrdd o bleserau synhwyraidd 'pechadurus' fel cerddoriaeth a dawnsio. Yn 1802, ysgrifennodd Edward Jones 'mae Cymru, a oedd yn un o wledydd hapusaf y byd gynt, ar ei ffordd i fod y diflasaf'. Canu'r delyn oedd un o'r ychydig opsiynau ar gael i bobl ddall adeg hynny. Tua 1823, sefydlwyd cymdeithas yn Aberhonddu i ddysgu bechgyn dall i ganu'r delyn deires. Roedd hyn yn ymgais i adfywio traddodiad y delyn deires, yn ogystal ag ymgais i roi modd i bobl ddall gynnal eu hunain. Ond tlawd a fu llawer o delynorion dall. Mae hyn yn bwydo mewn i gysylltiadau ystrydebol rhwng dallineb a thlodi, dirywiad cymdeithasol a cholled. O dan y llun, mae dyfyniad o Caniad y Gog i Feirionydd, alaw werin boblogaidd gan y bardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn). ⁠⁠ Ar waelod y dudalen mae'r geiriau 'Telyn Fwyn Cymru', wedi'u hysgrifennu yn yr wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Roedd yr artist John Orlando Parry hefyd yn gerddor, ac yn ddigrifwr poblogaidd. Wedi'i annog gan ei dad, John Parry (Bardd Alaw), roedd hefyd wedi dysgu i ganu'r delyn. Cyfrannodd y ddau ddyn lawer at fywyd diwylliannol Cymreig ac roeddent yn gefnogwyr brwd o'r Eisteddfod. Yn 1838, cyhoeddodd Bardd Alaw lyfr, The Welsh Harper. ⁠⁠Mae'n bosibl y bwriadwyd y braslun hwn fel llun ar gyfer y llyfr, er nad aeth y dyluniad i'r wasg.

PARRY, John Orlando (Artist)

<p>Mae telynor dall tlawd yn eistedd ar fainc, ei delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ci wrth ei ochr. Wedi'u gwasgaru o'i amgylch mae rhywfaint o eiddo: ffon gerdded, pâr o fenig, a dau fath o ebill i diwnio’r delyn. Mae poster wedi'i rolio dan y fainc yn awgrymu ei fod yn cystadlu, neu wedi bod yn cystadlu, mewn Eisteddfod. Mae telyn fechan wedi'i phinio i'w siaced. Roedd y rhain weithiau'n cael eu rhoi fel gwobrau yn yr Eisteddfod ar gyfer perfformiadau ar y delyn. Wrth ei ochr ar y fainc mae jwg cwrw o grochenwaith caled a elwir yn 'jwg hela' gan eu bod yn aml yn cael eu haddurno â golygfeydd hela gwledig. Mae’r jwg yn awgrymu dathliadau - er nad yw'r telynor yma yn edrych yn llawen iawn! 
Roedd telynau'n aml yn cael eu canu mewn tafarndai, yn yr awyr agored, ac mewn eisteddfodau fel cyfeiliant ar gyfer dawnsio, canu ac adrodd. Ond erbyn y 19eg ganrif, roedd y delyn deires yn llai poblogaidd, er i Arglwyddes Llanofer ac eraill geisio adfywio'r traddodiad.⁠ ⁠ Roedd rhai pobl yn beio anghydffurfwyr piwritanaidd am y dirywiad ym mhoblogrwydd y delyn, am iddynt lywio pobl i ffwrdd o bleserau synhwyraidd 'pechadurus' fel cerddoriaeth a dawnsio. Yn 1802, ysgrifennodd Edward Jones 'mae Cymru, a oedd yn un o wledydd hapusaf y byd gynt, ar ei ffordd i fod y diflasaf'. 
Canu'r delyn oedd un o'r ychydig opsiynau ar gael i bobl ddall adeg hynny. Tua 1823, sefydlwyd cymdeithas yn Aberhonddu i ddysgu bechgyn dall i ganu'r delyn deires. Roedd hyn yn ymgais i adfywio traddodiad y delyn deires, yn ogystal ag ymgais i roi modd i bobl ddall gynnal eu hunain. Ond tlawd a fu llawer o delynorion dall. Mae hyn yn bwydo mewn i gysylltiadau ystrydebol rhwng dallineb a thlodi, dirywiad cymdeithasol a cholled. 
O dan y llun, mae dyfyniad o Caniad y Gog i Feirionydd, alaw werin boblogaidd gan y bardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn). ⁠⁠ Ar waelod y dudalen mae'r geiriau 'Telyn Fwyn Cymru', wedi'u hysgrifennu yn yr wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg.
Roedd yr artist John Orlando Parry hefyd yn gerddor, ac yn ddigrifwr poblogaidd. Wedi'i annog gan ei dad, John Parry (Bardd Alaw), roedd hefyd wedi dysgu i ganu'r delyn. Cyfrannodd y ddau ddyn lawer at fywyd diwylliannol Cymreig ac roeddent yn gefnogwyr brwd o'r Eisteddfod. Yn 1838, cyhoeddodd Bardd Alaw lyfr, The Welsh Harper. ⁠⁠Mae'n bosibl y bwriadwyd y braslun hwn fel llun ar gyfer y llyfr, er nad aeth y dyluniad i'r wasg.</p>
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 3406

Creu/Cynhyrchu

PARRY, John Orlando
1812-1865? NMW card index cites above dates. Trained as a singer in Italy, produced comic sketches and many sketchbooks
Rôl: Artist

Mesuriadau

Uchder (cm): 49.9
Lled (cm): 38.7
Uchder (in): 19
Lled (in): 15

Techneg

Watercolour, ink with gum on paper laid on linen

Deunydd

Watercolour
Ink
Gum
Paper
Linen

Lleoliad

In store

Categorïau

Darlun | Drawing Gweithiau ar bapur | Works on paper Celf Gain | Fine Art 08_CADP_Nov_21 Portread Telyn Ci Pobl ag anabledd Dyn Cerddor CADP content
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

[No title]

Artist: KUNISADA, Utagawa
(1852)
NMW A 19082
Mwy am yr eitem hon
Celf

[No title]

Artist: MARINOT, Maurice
(1947)
NMW A 19920
Mwy am yr eitem hon
Celf

<p>Full title: Jean Straker, Photographer. Jean Straker was born in London in 1913. During the Second World War, Straker, a conscientious objector, worked as a photographer. Jean soon discovered how great the need was for detailed, speedy medical photography, particularly of surgical procedures. There were numerous emergency operations performed during the air raid years and operating techniques were changing and developing rapidly. Photographs, particularly those in sequence, were of the utmost value, as records and in the teaching hospitals as teaching aids. Abandoning commercial photography in 1951 Jean set up The "Academy of Visual Arts". Members had access to exhibitions resulting from its program of lecture-demonstrations. In 1951, he opened the Visual Arts Club at Studio House, 12 Soho Square, for "artists and photographers, amateur and professional, studying the female nude". Six years in 1961, officers from Scotland Yard, acting on a tip of from the Italian Police, visited Straker. In 1961, police raided Studio House and took a number of prints and negatives that they considered obscene. Straker stood trial in 1962, he defended himself and despite arguing that his photographs were "of artistic value", he lost the case and forfeited all the prints and negatives that were confiscated. But on appeal to The House of Lords this conviction was squashed. This case lead to changes in the Censorship Laws in 1965.</p>

Photographer: HURN David
(2016)
NMW A 56612
Mwy am yr eitem hon
Celf

<p>Full title: Jean Straker, Photographer. Jean Straker was born in London in 1913. During the Second World War, Straker, a conscientious objector, worked as a photographer. Jean soon discovered how great the need was for detailed, speedy medical photography, particularly of surgical procedures. There were numerous emergency operations performed during the air raid years and operating techniques were changing and developing rapidly.</p>

Photographer: HURN David
(1965)
NMW A 56611
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯