Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Y Gwyliwr Agos a Cwlwm Rhugl yn ddau lun baner y gellir eu harddangos gyda'i gilydd ar gefndir murlun wedi'i baentio sy'n cysylltu ac yn ymestyn y cyfansoddiadau. Maen nhw’n cynrychioli tirweddau ôl-ddiwydiannol, heb ddim planhigion na choed ac yn llawn ffigurau rhyfedd a delweddau swrrealaidd. Magwyd yr arlunydd Prabhakar Pachpute yn Chandrapur yng nghanol India lle bu tair cenhedlaeth o'i deulu yn gweithio ym mhyllau glo'r rhanbarth. Mae ei waith yn aml yn archwilio olion y diwydiant mwyngloddio byd-eang, gan greu amgylcheddau arall-fydol sy’n atgofion pwerus a llawn dychymyg o ecsbloetiad gweithwyr a dinistr byd natur.