Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Defnyddiodd Keith Arnatt ei gamera, a gwybodaeth fanwl o hanes celf, i wreiddio gwrthrychau cwbl gyffredin ag ystyr newydd. Mae’r ffotograff hwn yn rhan o gyfres o ffotograffau a dynnwyd yn Howler’s Hill – safle tirlenwi ger Fforest y Ddena – sy’n dioddef yn sgil effaith ein cymdeithas taflu i ffwrdd. O dan olau cynnes min nos, mae'r pentyrrau o wastraff sy’n pydru yn dod yn rhywbeth trawiadol, a hardd hyd yn oed. Mae bagiau bin a bocsys cardfwrdd gorlawn, a goleuadau tylwyth teg wedi’u clymu, hyd yn oed, yn llawn holl emosiwn a mawredd paentiadau olew Baróc o'r unfed ganrif ar bymtheg.