Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Y Pladurwr

THORNYCROFT, Sir W.H. (1850-1925)

Mae’r cerflun bach efydd hwn yn dangos gwas fferm ifanc heb ei grys mewn het ac esgidiau gwaith yn gorffwyso gyda’i fraich ar ei glun, yn dal pladur. Fe’i crëwyd gan William Hamo Thornycroft, un o gerflunwyr enwocaf Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac artist a oedd yn gysylltiedig â’r mudiad Cerflunwaith Newydd. Roedd Thornycroft yn ymddiddori mewn llafurwyr a’r dosbarth gweithiol, yn rhannol drwy ddylanwad ei wraig, Agatha Cox. Ysgrifennodd, ‘Mae pob wyneb gweithiwr rydw i’n dod ar ei draws yn y stryd yn fy niddori, ac rwy’n teimlo cydymdeimlad gyda’r llafurwyr â’u dwylo caled, ac nid gyda’r ‘deg uchaf’ hunanol a diog da-i-ddim’. Yn y Pladurwr, mae’n cyflwyno corff dyn dosbarth gweithiol ifanc fel pe bai’n arwr neu’n dduw clasurol. Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith hwn pan oedd Thornycroft yn hwylio ar yr Afon Tafwys gyda’i ffrindiau. Gwelodd bladurwr ar lan yr afon yn gorffwyso, a gwnaeth fraslun cyflym cyn datblygu’r syniad yn gerflun. Roedd y pladurwr go iawn a welodd yn gwisgo crys, ond tynnodd Thornycroft ei ddillad ar gyfer ei gerflun, gan egluro wrth ei wraig ei fod am ‘gadw ei het ymlaen a chario ei grys’, ac y byddai brês dros ei ysgwydd yn helpu i ‘dynnu oddi ar yr ymddangosiad noeth’. Mae sawl hanesydd celf wedi dehongli’r Pladurwr drwy lygad queer. Mae Michael Hatt yn disgrifio’r gwaith fel un homoerotig, a gaiff ei ddiffinio ganddo fel y gofod amwys rhwng yr homogymdeithasol a’r cyfunrywiol. Rhoddwyd y fersiwn hon i’r Amgueddfa ym 1928 gan Syr William Goscombe John, ond mae fersiynau eraill yn bodoli, gan gynnwys braslun model cwyr 1882 sydd yn y Tate, a fersiwn gynharach maint llawn yn Oriel Gelf Walker, Lerpwl. Dywedir mai dyma’r cerflun sylweddol cyntaf sy’n sefyll wrtho’i hun yn dangos llafurwr a wnaed ym Mhrydain.

New sculpture is a name applied to the sculptures produced by a group of artists working in the second half of the nineteenth century The term was coined by critic Edmund Gosse in an 1876 article in Art Journal titled The New Sculpture in which he identified this new trend in sculpture. Its distinguishing qualities were a new dynamism and energy as well as physical realism, mythological or exotic subject matter and use of symbolism, as opposed to prevailing style of frozen neoclassicism. It can be considered part of symbolism. The keynote work was seen by Gosse as Lord Fredrick Leighton’s Athlete Wrestling with a Python, but the key artist was Sir Alfred Gilbert followed by Sir George Frampton. An Important precursor was Michelangelesque work of Alfred Stevens.

Y Pladurwr
Delwedd: © Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (7)  

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 132

Creu/Cynhyrchu

THORNYCROFT, Sir W.H.
Dyddiad:

Derbyniad

Gift, 21/11/1928
Given by Sir William Goscombe John

Mesuriadau

Uchder (cm): 58.5

Techneg

bronze
Techniques (sculpture)
Fine Art - sculpture

Deunydd

bronze

Lleoliad

In store

Categorïau

Cerflun | Sculpture Celf Gain | Fine Art Astudiaeth ffurf | Figure study LHDTC+ | LGBTQ+ Bywyd cyfoes | Contemporary life Amaethyddiaeth | Agriculture Celf Fictorianaidd | Victorian Art Cerflun newydd | New Sculpture
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

Needless alarm

LEIGHTON, Frederick (1830-1896)
NMW A 123
Mwy am yr eitem hon
Comedy and Tragedy: "Sic Vita"
Celf

Comedy and Tragedy: "Sic Vita"

GILBERT, Sir Alfred (1854-1934)
NMW A 118
Mwy am yr eitem hon
Celf

Reverend C.J. Thompson

JOHN, Sir William Goscombe (1860-1952)
NMW A 2621
Mwy am yr eitem hon
Celf

The Sluggard

LEIGHTON, Frederick (1830-1896)
NMW A 122
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Polisi Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯