Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cup
Ar 25 Mehefin 1824 cynhaliwyd un o bartïon mwyaf Cymru erioed, i ddathlu pen-blwydd Syr Robert Williames Vaughan, mab tirfeddiannwr mwyaf Sir Feirionydd, yn un-ar-hugain. Cynhaliwyd gwledd fawreddog i ddau gant o westeion ar ystâd Nannau yn Nolgellau, gan gynnwys golwyth anferth o gig eidion ych gwyn Nannau, ych a baentiwyd gan Daniel Clowes o Gaer. Cynhyrchwyd nifer o eitemau i goffau’r digwyddiad, ac mae nifer bellach yn Amgueddfa Cymru, gan gynnwys chwe chwpan llwncdestun arbennig siâp mês. Cawsant eu cerfio o bren derw Ceubren yr Ellyll, coeden hynafol yn Nannau oedd â chysylltiad ag Owain Glyndwr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.