Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Shirt
Crys gwlanen wedi wehyddu ym Melin y Cambrian, Dre-fach Felindre, dechrau’r 1900au.
Roedd y felin yn gwerthu dillad – peisiau, crysau a ffedogau – yn ogystal â llathenni o frethyn streipiog, siec a phlaen i gwsmeriaid y Canolbarth a’r De. Roedd y rhan fwyaf o’r archebion yn mynd i siopau dilledyddion yn ardaloedd diwydiannol y De, lle'r oedd galw mawr am ddillad gwlanen i weithwyr. Cafodd rhai eu hanfon cyn belled â gogledd Lloegr a’r Alban.