Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Rom
EPSTEIN, Jacob (1880 - 1959)
Ym 1905 symudodd Jacob Epstein o Baris i Lundain, ac yno daeth i adnabod Augustus John. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gwnaeth ben efydd o Romilly John (g.1904), mab yr arlunydd. Mae'r cerflun grymus hwn o'r un pwnc yn dangos dylanwad cerflunio Cyntefig ac Eric Gill, a gerfiodd yr arysgrif ROM ar ei waelod. Ym 1911 disgrifiodd Epstein Rom fel 'y Plentyn Bythol, un o'r ffigyrau ymyl mewn grŵp yn dyrchafu Dyn a Dynes, o gwmpas creirfa ganolog...fel teml fawr'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.