Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Cerfiad Rhif 5 yn perthyn i gyfres o gerfiadau carreg o’r 1980au cynnar a greodd Barry Flanagan mewn cydweithrediad â chrefftwyr yn Pietrasanta yn yr Eidal. Creodd y maquettes drwy wasgu clai yn ei ddwylo. Yna, cafodd y rhain eu graddio i fyny a’u copïo mewn marmor gan gerfwyr Eidalaidd, a gadwodd nodweddion ac olion bysedd y model clai gwreiddiol. Drwy gerfio carreg i edrych fel clai wedi’i fodelu, mae Flanagan yn gwneud jôc gerfluniol sydd fel petai’n cyfeirio at ddadl barhaus ym myd cerflunwaith modernaidd – rhinweddau cymharol cerfio a modelu.