Cerfiad Rhif 5 - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Cerfiad Rhif 5

FLANAGAN, Barry (Production)

Mae Cerfiad Rhif 5 yn perthyn i gyfres o gerfiadau carreg o’r 1980au cynnar a greodd Barry Flanagan mewn cydweithrediad â chrefftwyr yn Pietrasanta yn yr Eidal. Creodd y maquettes drwy wasgu clai yn ei ddwylo. Yna, cafodd y rhain eu graddio i fyny a’u copïo mewn marmor gan gerfwyr Eidalaidd, a gadwodd nodweddion ac olion bysedd y model clai gwreiddiol. Drwy gerfio carreg i edrych fel clai wedi’i fodelu, mae Flanagan yn gwneud jôc gerfluniol sydd fel petai’n cyfeirio at ddadl barhaus ym myd cerflunwaith modernaidd – rhinweddau cymharol cerfio a modelu.

Cerfiad Rhif 5
Delwedd: © Ystâd Barry Flanagan. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (9)

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 29405

Creu/Cynhyrchu

FLANAGAN, Barry
Rôl: Artist
Rôl: Sculptor
Rôl: Production
Lle: Italy
Cyfnod: 1982

Derbyniad

Purchase - ass. of DWT, 17/6/2009

Mesuriadau

Uchder (cm): 26
Lled (cm): 73
Dyfnder (cm): 51
Pwysau (kg): 110

Techneg

Carved (decoration)
Decoration
Applied Art

Deunydd

Marble

Lleoliad

In store

Categorïau

Cerflun | Sculpture Celf Gain | Fine Art 21_CADP_Dec_22 Astudiaeth o gerfluniau, Cerfluniaeth Hiwmor Celf ar y Cyd (100 Artworks) CADP content CADP random Artistiaid y 21ain ganrif
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

[No title]

Artist: HERNANDEZ, Secundino
(2015)
NMW A 24942
Mwy am yr eitem hon
Celf

[No title]

Artist: FREEMAN, Michael
(1993)
NMW A 24829
Mwy am yr eitem hon
Celf

<p>Mae telynor dall tlawd yn eistedd ar fainc, ei delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ci wrth ei ochr. Wedi'u gwasgaru o'i amgylch mae rhywfaint o eiddo: ffon gerdded, pâr o fenig, a dau fath o ebill i diwnio’r delyn. Mae poster wedi'i rolio dan y fainc yn awgrymu ei fod yn cystadlu, neu wedi bod yn cystadlu, mewn Eisteddfod. Mae telyn fechan wedi'i phinio i'w siaced. Roedd y rhain weithiau'n cael eu rhoi fel gwobrau yn yr Eisteddfod ar gyfer perfformiadau ar y delyn. Wrth ei ochr ar y fainc mae jwg cwrw o grochenwaith caled a elwir yn 'jwg hela' gan eu bod yn aml yn cael eu haddurno â golygfeydd hela gwledig. Mae’r jwg yn awgrymu dathliadau - er nad yw'r telynor yma yn edrych yn llawen iawn! Roedd telynau'n aml yn cael eu canu mewn tafarndai, yn yr awyr agored, ac mewn eisteddfodau fel cyfeiliant ar gyfer dawnsio, canu ac adrodd. Ond erbyn y 19eg ganrif, roedd y delyn deires yn llai poblogaidd, er i Arglwyddes Llanofer ac eraill geisio adfywio'r traddodiad.⁠ ⁠ Roedd rhai pobl yn beio anghydffurfwyr piwritanaidd am y dirywiad ym mhoblogrwydd y delyn, am iddynt lywio pobl i ffwrdd o bleserau synhwyraidd 'pechadurus' fel cerddoriaeth a dawnsio. Yn 1802, ysgrifennodd Edward Jones 'mae Cymru, a oedd yn un o wledydd hapusaf y byd gynt, ar ei ffordd i fod y diflasaf'. Canu'r delyn oedd un o'r ychydig opsiynau ar gael i bobl ddall adeg hynny. Tua 1823, sefydlwyd cymdeithas yn Aberhonddu i ddysgu bechgyn dall i ganu'r delyn deires. Roedd hyn yn ymgais i adfywio traddodiad y delyn deires, yn ogystal ag ymgais i roi modd i bobl ddall gynnal eu hunain. Ond tlawd a fu llawer o delynorion dall. Mae hyn yn bwydo mewn i gysylltiadau ystrydebol rhwng dallineb a thlodi, dirywiad cymdeithasol a cholled. O dan y llun, mae dyfyniad o Caniad y Gog i Feirionydd, alaw werin boblogaidd gan y bardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn). ⁠⁠ Ar waelod y dudalen mae'r geiriau 'Telyn Fwyn Cymru', wedi'u hysgrifennu yn yr wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Roedd yr artist John Orlando Parry hefyd yn gerddor, ac yn ddigrifwr poblogaidd. Wedi'i annog gan ei dad, John Parry (Bardd Alaw), roedd hefyd wedi dysgu i ganu'r delyn. Cyfrannodd y ddau ddyn lawer at fywyd diwylliannol Cymreig ac roeddent yn gefnogwyr brwd o'r Eisteddfod. Yn 1838, cyhoeddodd Bardd Alaw lyfr, The Welsh Harper. ⁠⁠Mae'n bosibl y bwriadwyd y braslun hwn fel llun ar gyfer y llyfr, er nad aeth y dyluniad i'r wasg.</p>

Artist: PARRY, John Orlando
NMW A 3406
Mwy am yr eitem hon
Celf

[No title]

Artist: HOWARD-JONES, Ray
NMW A 9897
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯