John Parry, y Telynor Dall (bu f.1782) gyda Chynorthwydd - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

John Parry, y Telynor Dall (bu f.1782) gyda Chynorthwydd

PARRY, William (1742-1791 William Parry trained in London under the fashionable British portrait painter Joshua Reynolds. He maintained a healthy career in Wales, thanks to the support of the Williams-Wynn family of Wynnstay. He was a friend of Thomas Jones, and the son of celebrated harpist, John Parry. Hyfforddwyd William Parry yn Llundain gan y peintiwr portreadau Prydeinig ffasiynol Joshua Reynolds. Fe lwyddodd i ddilyn gyrfa lewyrchus yng Nghymru, diolch i gefnogaeth y teulu Williams-Wynn o Wynnstay. Roedd yn gyfaill i Thomas Jones, ac yn fab i’r telynor John Parry.)

Roedd John Parry, y telynor dall o Riwabon, ⁠yn gerddor enwog yn ei oes. Roedd yn ddall o oed ifanc, a daeth yn enwog am ei berfformiadau ar y delyn deires. Roedd yn gyfansoddwr a chyhoeddwr dylanwadol. Fe helpodd i sefydlu’r delyn deires yn symbol cenedlaethol o Gymru, wedi’i chysylltu â chwedlau rhamantus y derwyddon Celtaidd a’r hen feirdd, a daeth ag alawon gwerin Cymreig poblogaidd i sylw cynulleidfaoedd breintiedig ac elitaidd yng Nghymru a thu hwnt. Mae rhai yn ystyried hyn yn rhywbeth wnaeth godi statws y caneuon gwerin, er eu bod o werth diwylliannol a chymdeithasol sylweddol beth bynnag. Gellir ei weld yma yn canu ei delyn mewn ystafell foethus, yn Wynnstay fwy na thebyg, cartref ei noddwr, Syr Watkin Williams Wynn. Roedd canu’r delyn yn un o’r ffyrdd prin y gallai pobl ddall gynnal bywoliaeth yn y 18fed ganrif, ond byddai’r rhan fwyaf o delynorion dall wedi bod yn dlawd ac yn ddifreintiedig.⁠ ⁠Roedd gan John Parry gyfuniad ffodus o ddawn a chefnogaeth noddwr cyfoethog, wnaeth ganiatáu iddo lwyddo yn ei faes. Mae’n bosibl mai’r cynorthwyydd wrth ei ochr yn y portread yw ei fab David. Mae’n dal y sgôr i anthem goroni enwog Handel, Zadok the Priest. ⁠Cyfeiriad yw hyn at gariad Watkin Williams Wynn at gerddoriaeth Handel a theyrnged i gerddor dall arall; roedd Handel ei hun bron yn hollol ddall erbyn 1751 ar ôl llawdriniaeth aflwyddiannus ar ei lygaid, ond fe barhaodd i berfformio. Gwnaeth y teulu Williams Wynn hefyd gefnogi mab John Parry, William, i ddod yn artist. Paentiodd William Parry sawl portread o’i dad, gan gynnwys hwn, a gafodd ei baentio tua 1770. Roedd William newydd ddod yn ôl i Gymru yn dilyn ei hyfforddiant yn yr Academi Frenhinol, wedi’i gefnogi gan Watkin Williams Wynn. Cafodd John Parry ei ramanteiddio yn ei oes fel un o hen feirdd Cymru wedi atgyfodi, ac roedd ei ddallineb yn rhoi dilysrwydd i’r stori. Roedd sawl bardd enwog yn hanes a llenyddiaeth yr henfyd yn ddall. Maent yn aml yn cael eu hystyried yn broffwydi, cyfrinwyr neu weledyddion, pobl a allai weld ar ryw lefel y tu hwnt i’r corfforol. Mae cysylltiad rhwng beirdd a dallineb yn ystrydeb ramantaidd, ond mae’n un sy’n dal ei dir yn nychymyg diwylliannol y Gorllewin. Roedd ‘cytgord dall swynol’ Parry gyda’i ‘alawon hudolus’ yn ysbrydoliaeth i Thomas Gray orffen ysgrifennu ei gerdd ddylanwadol ‘The Bard’ yn 1757.

John Parry, y Telynor Dall (bu f.1782) gyda Chynorthwydd
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 3980

Creu/Cynhyrchu

PARRY, William

Derbyniad

Purchase, 1996

Mesuriadau

Uchder (cm): 87.4
Lled (cm): 71.6

Techneg

Oil on canvas
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

Oil paint

Lleoliad

on display

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Categorïau

Paentiad | Painting Celf Gain | Fine Art Telyn Diwygiad Celtaidd Portread dwbl Portread wedi'i Enwi
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯