Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r paentiad hwn, gaiff ei adnabod fel 'Poor Taff' yn darlunio'r cymeriad Cymreig dychanol Shon-Ap-Morgan. Mae ar daith i Lundain, i ddial am y sarhad y mae'r Saeson yn ei roi i'r Cymry bob Dydd Gŵyl Dewi. Ymysg nodweddion y cymeriad mae'r afr, y cennin, y caws a'r penwaig.
Câi'r symbolau gwrth-Gymreig hyn eu hyrwyddo yng ngwasg boblogaidd Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Wrth i amser fynd heibio, daeth Shon-Ap-Morgan yn symbol ychydig yn garedicach o hunaniaeth Gymreig. Mae'n bosibl i'r paentiad hwn gael ei gomisiynu gan un o gymdeithasau Cymreig Llundain am y rheswm hyn.
Mae'r testun yn y cefndir, sydd wedi'i ychwanegu'n ddiweddarach, yn ddirgelwch.