Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tu mewn, Carpanini’s, Tonypandy
Yn sgil y ffyniant diwydiannol a’r addewid o waith cyson, ymgartrefodd tua 1,000 o Eidalwyr yng Nghymru erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1890, agorodd Giacomo Bracchi y caffi Eidalaidd cyntaf yng Nghymru ac erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd mwy na 300 o gaffis. Er bod eu niferoedd wedi gostwng ers hynny, mae sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan Eidalwyr yn parhau i fod wrth galon llawer o gymunedau ar draws cymoedd y de-ddwyrain. Ym 1980, dogfennodd y ffotograffydd Mo Wilson y sefydliadau hyn a'r bobl y tu ôl iddynt. Mae’r ddelwedd hon, er bod y byrddau’n wag, yn cyfleu hiraeth a chynhesrwydd caffis Eidalaidd Cymru.