Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Dyma gadair Eisteddfod Genedlaethol Merthyr 1881. Mae iddi gefn tal a therfyniadau ar ffurf mes gyda’r Nod Cyfrin yn amlwg ar y grib fel y gellid ei weld uwchben y bardd ac ategir y symbol eto yn y tair gwerthyd durniedig islaw. Pwysleisir yr elfen orseddol i’r gadair gan y pennau geifr ar flaen pob braich.
Credir mai Nathan Dyfed (Jonathan Owain Reynolds), a oedd yn gylchwr yn y dref ar y pryd, oedd saer y gadair. Roedd yn grefftwr geiriau hefyd ac enillodd dros gant o wobrwyon mewn gwahanol eisteddfodau. Efallai mai dyma’r rheswm iddo ddefnyddio’r ysgrifen farddol ar y gadair ar gyfer arwyddair yr Orsedd ac wrth gofnodi ei enw ei hun ar y cefn. Y bardd buddugol, o’r un enw, oedd Dyfed (Y Parch. Evan Rees), a fu’n llwyddiannus ar sawl achlysur arall. Enillodd Dyfed £21 yn wobr gyda chadair 1881. Bu'n Archdderwydd o 1905-23.