Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Yn y cyfnod yma, daeth yn arferiad i gynnal cystadleuaeth i lunio'r gadair farddol yn Adran Celf a Chrefft yr Eisteddfod. O flwyddyn i flwyddyn cynhyrchwyd cadeiriau gwbl unigryw gan grefftwyr amatur a phroffesiynol.
Enillodd y gadair hon y wobr am y gadair farddol orau yn y gystadleuaethyn Eisteddfod Llandudno 1896. Cerfiwyd y gadair hon gan Henry Williams o Fôn ac mae'n dilyn patrwm cadair farddol draddodiadol: cadair dderw anferth wedi ei cherfio â symbolau Gorsedd y Beirdd ynghyd ag enw a dyddiad yr Eisteddfod. Henry Williams oedd gwneuthurwr cadair 1895 yn Eisteddfod Llanelli sy'n debyg iawn o ran dyluniad. Cyflwynwyd y gadair i'r Parch. Ben Davies a oedd wedi ennill ei gadair cyntaf yn 1885 yn un ar hugain oed.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.