Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r panel hwn yn dangos Syr Edward Stradling (1529-1609) a drosglwyddodd weddillion ei hynafiaid i eglwys Sain Dunwyd, ac a gomisiynodd y paneli coffaol hyn. Bu hefyd yn gyfrifol am godi beddrod o farmor aml-liwiog ar gyfer ef ei hun ac Agnes, merch Syr Edward Gage (Goruchwyliwr Gweision Harri VIII). Fe'u darlunnir gyda'i gilydd yma eto, ac fe'u dangosir yng ngwisg y cyfnod, yn cario llyfrau gweddi. Mae ei arwyddair VERTUES HOLE PARAISE CONSISTETH IN DOING wedi ei arysgrifennu ar y top. Addysgwyd Edward yn Rhydychen ac roedd yn adnabyddus fel hynyfiaethydd, achydd ac ysgolhaig Cymreig a dalodd am gyhoeddi gramadeg Siôn Dafydd Rhys, 'Cambrobrytannicae Linguae Institutiones' ym 1592.