Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ganed Edzard ym Mrenan, bu'n astudio o dan Max Beckman ac fe gynhaliodd ei arddangosfa bwysig gyntaf ym Merlin ym 1916. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, treuliodd rai blynyddoedd yn Amsterdam ac yn y tridegau cynnar fe aeth i Baris. Mae'r llun hwn yn galw i gof y lluniau a dynnodd Degas o gaffis ac mae'r dillad syrcas a'r ffigyrau androgenaidd melancolaidd yn ein hatgoffa o waith cynnar Picasso. Mae'r lliwiau tawel ac ansawdd sych wyneb y llun yn dyfnhau'r teimlad o arwahanrwydd mewnsyllol. Mae'r patrwm ar y bwrdd a'r llewys addurnedig yn gwneud i'r wynebau edrych hyd yn oed yn fwy gwelw a difynegiant. Prynwyd y llun gan Margaret Davies yn Llundain ym 1935.