Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Golygfa llygad aderyn o Gwm Glaslyn yn Eryri a welwn ni yn y paentiad hwn. Mae afon yn troelli drwy'r mynydd-dir, gan ein harwain drwy'r dyffryn i'r gorwel glas. O bobtu'r afon mae'r caeau yn wastad, gyda chreigiau a mynyddoedd yn codi ar bob ochr. Mae'r lliwiau'n ysgafn a breuddwydiol. Cwm Glaslyn yw un o olygfeydd prydferthaf Cymru, ac mae'n gyfoeth o fywyd gwyllt.
Paentiwyd yr olygfa hon gan Vivian Pitchforth tua 1940. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Vivian Pitchforth yn Artist Rhyfel Swyddogol.