Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Hay rake
Cribin onnen a gwiail wedi'i gwneud gan William Thomas o Llanmawddwy, y Canolbarth, 1955.
Saer gwlad oedd William Thomas a chreu cribinau oedd ei arbenigedd. Ef oedd y drydedd genhedlaeth o’i deulu i weithio cribinau. Arferai fynd â llond cart o gribinau i’r farchnad ym Machynlleth i’w gwerthu i ffermwyr ar gyfer y cynhaeaf. Roedd yn dal i greu cribinau ddechrau’r 1960au, ac yntau dros ei 90 oed. Erbyn hynny, roedd peiriannau’n gwneud y gwaith a llai o alw am gribinau.