Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Argae François Zola
Byddai Cézanne yn aml yn ymweld â bryniau l'Estaque, ychydig i'r Gorllewin o Marseilles. Daw'r olygfa hon ohonynt ar bapur wedi ei osod ar gynfas o'r cyfnod 1878-79. Erbyn 1885 yr oedd yn eiddo i Gauguin, a wnaeth gopi ohono mewn gouache gan synfyfyrio bod 'y llwybr troellog ar draws y tir toredig drwy'r coed ifanc yn ei atgoffa o'r llwybr unig a gerddodd Crist tuag at Fynydd yr Olewydd.'
Mae'r cyfansoddiad eithradol wastad sydd wedi ei fynegi'n syml yn ein hatgoffa o sylw Cézanne fod tirwedd Provence 'fel cerdyn chwarae, toeon coch uwchben môr glas...Mae'r haul mor danbaid yma fel y bydd gwrthrychau i mi i'w gweld fel amlinellau...mewn glas, coch, brown a fioled...mae hynny i mi yn ymddangos fel y gwrthwyneb i fodelu.'
Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym Mharis ym 1918. Pan oedd ar ei fenthyg i Oriel Tate ym 1922, canmolwyd ef gan Roger Fry fel 'un o'r mwyaf o holl dirluniau Cézanne.'
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.