Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Vase
Ysbrydolwyd siâp dau gowrd y fâs hon a'r gwydriad du afloyw gan gerameg Tsieineaidd. Mae symlrwydd y ffurf a'r lliw tawel yn adlewyrchu'r egwyddorion dylunio modernaidd a fabwysiadodd Marks tra'n fyfyriwr yn Ysgol Gelf Bauhaus yn Weimer ym 1920-21. Ganwyd Margarete Heymann yng Nghwlen, ond mae'n fwy adnabyddus fel Grete Marks (1899-1990) a sefydlodd Weithdai Haël ar gyfer Cerameg Artistig ym 1923 gan brofi llwyddiant drwy ganolbwyntio ar ddylunio blaengar. Fel Iddew, dioddefodd dan rym y Natsiaid ac fe'i gorfodwyd ym 1935 i werthu'i ffatri a ffoi i Brydain, lle bu'n gweithio am gyfnod yng nghrochendai swydd Stafford.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.