Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Gyfrinach
Mae'r hen wraig grebachlyd yn pwyso drosodd tuag at y ferch ifanc frwd. A'i llygaid ynghau, mae'n codi'i llaw grynedig fel petai ar fin siarad. Mae eu proffiliau'n amlwg yn erbyn y cefndir du, gan bwysleisio'r gwahaniaeth rhwng crychau henaint ac ieuenctid iach a hoenus. Mae'r olygfa syml hon, sy'n rhoi gwedd bersonol i brofiad a diniweidrwydd, yn dangos dawn Daumier fel gwawdlunydd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.