Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r adeiladwaith haniaethol lliwgar hwn, a wnaed i ymdebygu i flociau chwarae plant, yn gynrychiolaeth o'r temlau Mesopotamiaidd hynafol o'r enw Ziggurat. Byddai’r Ziggurats yn cael eu creu fel preswylfa i'r duwiau a dim ond offeiriaid oedd yn cael mynd i mewn iddyn nhw. Roedd y ffurfiad grisiog yn darparu mynediad o'r byd hwn i'r byd ysbrydol. Mae defnydd Joe Tilson o ddotiau yn rhoi ymdeimlad o wead, ond maen nhw hefyd yn cyfeirio at dechneg celf Bop sy’n deillio o’r rhai a ddefnyddir mewn argraffiadau lliw. Mae'r llythrennau bras yn ychwanegu ymddangosiad tri dimensiwn i elfennau dau ddimensiwn y paentiad.