Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Llyfr ysgol Marylyn Minett. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach saith oed hefyd. Am 9:13 y bore Gwener hwnnw, disgynnodd miloedd o dunelli o wastraff glo ar Ysgol Gynradd Pantglas a rhannau eraill o'r pentref gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn. Mae'r llyfr ysgol o'r enw 'English Progress Papers' (heb y clawr) yn cynnwys ymarferion gramadegol Saesneg wedi eu cwblhau gan Marylyn tra yn yr ysgol. Ar y dudalen flaen mae Marylyn wedi ysgrifennu ei henw gyda enwau aelodau ei theulu mewn pensil yn cynnwys ei rhieni (Cliff ac Iris), ei pedair chwaer (Sian, Michele, Gaynor, Belinda) a'i brawd bach, Carl.