Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Destierro (Dadleoli)
Mae Destierro (Dadleoli) yn ddatblygiad o berfformiad a gynhaliwyd yn wreiddiol yn Havana, Ciwba ym 1998. Pan fydd y siwt neu'r wisg yn cael ei harddangos, mae ffilm o’r perfformiad gwreiddiol yn cael ei daflunio y tu ôl i'r ffigwr. Dehongliad Bruguera o Nkisi Nkonde - ‘ffigwr ffetish’ pren o ganolbarth Affrica - yw’r siwt. Yn draddodiadol, byddai Nkisi Nkonde yn gartref i ysbryd sydd â phwerau brawychus a fyddai'n cynnig amddiffyniad ac yn rheoleiddio anghydfodau mewn cymuned. Roedd gan berfformiad Bruguera wahanol haenau o ystyr pan y’i perfformiwyd yng Nghiwba, gwlad sydd â chreoleiddiad neu gymysgedd bywiog o ddiwylliannau a chredoau Affricanaidd ac Ewropeaidd.