Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Loving cup
Cwpan tair dolen ag arysgrif sgraffito, Crochendy Claypits, Ewenni, 1880au.
Mae hanes hir o greu crochenwaith yn Ewenni. Roedd yr holl ddeunydd crai wrth law – clai coch, deunyddiau gwydro i’w gorffen, cerrig i adeiladu’r odynnau a glo i danio’r crochenwaith. Dros y blynyddoedd, mae 15 crochendy wedi bod yn yr ardal. Dim ond dau sydd yno erbyn heddiw.
Delwedd: Trwy garedigrwydd Amgueddfa Cymru. © Anhysbys. Os oes gennych unrhyw wybodaeth all ein helpu i ddod o hyd i ddeiliad yr hawlfraint, e-bostiwch delweddau@amgueddfacymru.ac.uk
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
F79.72
Mesuriadau
Uchder
(mm): 140
Meithder
(mm): 150
Lled
(mm): 150
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.