Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae hwn yn un o chwe chynfas gan y peintiwr o Antwerp, Melchior d'Hondecoter, a fu'n crogi yng nghartref Emily Charlotte, merch C.R.M. Talbot (1803-90) o Abaty Margam a Chastell Penrhys yn Llundain. Mae'n darlunio parc gwledig gydag adar o flaen pistyll a theras addurnedig gyda cherfluniau a ffigyrau. Roedd Hondecoeter yn arbenigo mewn cynfasau mawr addurnol llawn adar byw. Byddai'n peintio darluniau hynod o real o adar domestig ac egsotig, gan bwysleisio prydferthwch eu lliwiau a'u gweadau. Yma, gwelwn adar Ewropeaidd wrth ymyl paun, twrci o Ogledd America a garan goronog yr Affrig o flaen ffynnon ar deras addurnol. Defnyddiwyd darluniau o'r fath i addurno plastai noddwyr cefnog yr Iseldiroedd.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.