Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Myth Colled Rywiol # 4
Mae cyfres Myth Colled Rywiol yn mynd i'r afael â'r stigma sy'n bodoli ynghylch rhywioldeb a'r corff sy'n heneiddio. Deilliodd y syniad ar gyfer y project o brofiad Brett yn gweithio fel nyrs yn gofalu am yr henoed. Drwy siarad â'i chleifion, daeth yn amlwg nad yw'r awydd am angerdd ac agosatrwydd yn diflannu wrth i chi gyrraedd blynyddoedd diweddarach eich bywyd. Mae cyfansoddiad y ffotograff yn hanfodol i ddeall y gwaith; y ffrâm dynn yn creu dwyster dryslyd sy'n herio'r myth yn uniongyrchol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.