Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Llusern bedd Marylyn Minett o Aberfan. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach saith oed hefyd. Am 9:13 y bore Gwener hwnnw, disgynnodd miloedd o dunelli o wastraff glo ar Ysgol Gynradd Pantglas a rhannau eraill o'r pentref gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn. Yn dilyn y drychineb, cafodd teuluoedd yr ymadawedig lusernau bedd yn rhodd gan gwmni lleol i'w gosod ar feddi eu hanwyliaid. Mae teulu Marylyn a Carl Minett yn cofio mynwent Aberfan wedi ei goleuo gyda'r nos gan ganhwyllau'r llusernau yn cynrychioli y pob bywyd a gollwyd.