Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Chanticlear yn enghraifft wych o waith Gillian Ayres pan oedd hi’n byw yn Llaniestyn, Llŷn rhwng 1981 a 1987. Yn y cyfnod hwn, gweithiai Ayres ar raddfa eang, gan hoelio cynfasau i’r wal a dringo ysgol i gyrraedd y rhannau uchaf. Roedd hi’n paentio’r holl ffordd at ymyl y cynfas, gan greu gweithiau bywiog a haniaethol sy’n boddi’r gwyliwr mewn lliw a gwaed. Cyflwynodd yr artist y darlun hwn fel rhodd hael i Amgueddfa Cymru adeg ei harddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe’i dangoswyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd er cof amdani, yn dilyn y newyddion trist am ei marwolaeth ar 11 Ebrill 2018.