Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Celc Fferm Maesmelan, ger Maesyfed, Powys
Dyma gelc sy’n gydgysylltiad o ddau freichdlws neu freichled aur o’r Oes Efydd Ganol (1500-1275 CC).
Darganfuwyd y breichledi ym mis Mai 1981 ar wyneb y tir mewn cae oedd wedi’i aredig ar Fferm Maesmelan. Roedd y cae wedi'i aredig am y tro cyntaf erioed yn gynharach yn y flwyddyn. Roedd y man darganfod ar lethr yn wynebu'r de-orllewin ger ceg dyffryn sych. Bu staff o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn gwneud gwaith cloddio archaeolegol yn y man darganfod ym mis Chwefror 1982. Gwaetha’r modd, ni ddarganfuwyd gwybodaeth ychwanegol am gyd-destun claddu gwreiddiol y celc ac ni ddarganfuwyd rhagor o arteffactau o'r Oes Efydd.
Mae un o'r breichdlysau sy'n cau â bachyn a phin yn debyg iawn o ran arddull i ddwy enghraifft yng nghelc Capel Isaf, Manordeilo, sy'n awgrymu eu bod o gyfnod tebyg. Yn yr un modd, gwelwyd wrth ddadansoddi cyfansoddiad metel y ddau freichdlws mai ychydig o gopr sydd ynddynt. Mae hynny'n fwy nodweddiadol o eitemau aur o gyfnod cynharach yn yr Oes Efydd.
Cyhoeddwyd bod y celc yn drysor mewn Cwest Hapdrysor a gynhaliwyd yn Llanandras ym mis Ebrill 1982 ac fe'i prynwyd ar gyfer y casgliad cenedlaethol yn yr un flwyddyn.