Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Carnifal Tre-biwt, 30 Awst 1982
Mae galwad am gyflwyniadau wedi agor i greu rhestrau o dreftadaeth fyw yn y DU, gan ofyn i gymunedau gyflwyno eu traddodiadau a’u harferion treftadaeth.
Mae treftadaeth fyw (neu 'dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol') yn un o'r meysydd treftadaeth sy'n aml yn cael ei ddiystyru, ac mae'n cynnwys llên gwerin, perfformio, arferion a chrefftau sy'n cael eu pasio i lawr o un genhedlaeth i’r llall.
Mae’n destun eang sy’n gallu cynnwys popeth o ganu clychau i adeiladu cychod, o cèilidh i garnifal, o bantomeim i ddiwrnod crempog, o gemau’r ucheldir i’r Eisteddfod, a chodi waliau cerrig sych i wasaela.
Defnyddir saith categori ar gyfer y rhestrau (er bod llawer o dreftadaeth fyw yn perthyn i sawl categori): mynegiant llafar; arferion cymdeithasol; celfyddydau perfformio; tir, natur ac ysbrydolrwydd; crefftau; chwaraeon a gemau; ac arferion coginio.
Mae'r rhestrau'n cael eu sefydlu gan Lywodraethau'r DU, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ôl i'r DU ymuno â Chonfensiwn UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol y llynedd.
Bydd yr alwad am gyflwyniadau ar agor am 4 mis tan Gwener 27 Mawrth. Yn ystod yr amser hwn, cynhelir amrywiaeth o sesiynau, gweithdai a digwyddiadau, gan gynnwys rhai gan amrywiol Ganolfannau Cymorth Cymunedol, sy’n gallu rhoi help ac arweiniad. Mae rhagor o fanylion yma www.livingheritage.unesco.org.uk
Bydd y rhestrau'n rhoi cipolwg ar yr holl wahanol fathau o dreftadaeth fyw ledled y DU: o’r poblogaidd i’r arbenigol ac o’r hen i’r newydd. Eu pwrpas yw codi ymwybyddiaeth a dechrau sgwrs am werth y dreftadaeth hon, gan baratoi'r ffordd ar gyfer ymdrechion i’r dyfodol i’w diogelu’n well.
Hybiau Cymorth Cymunedol
Mae Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn un o saith Hwb Cymorth Cymunedol sy’n rhedeg drwy gydol yr alwad am gynigion i ateb unrhyw gwestiynau a darparu canllawiau. Cysylltwch â ni i gael cymorth ar bob math o dreftadaeth fyw yng Nghymru.
Ebost: treftadaethfyw@amgueddfacymru.ac.uk
Gweithdai i ddarganfod mwy:
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: 15 Chwefror, 12-3yp
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: 11 Mawrth, 2-3yp
Amgueddfa Wlân Cymru: 14 Mawrth, 11-3yp
Neu ymunwch â ni ar-lein bob dydd Mawrth am 4yp, e-bostiwch treftadaethfyw@amgueddfacymru.ac.uk am fanylion mewngofnodi
Y Fari Lwyd yn Llanilltud Fawr, 1930
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd, tua 1908
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd, tua 1919
Artistiaid o India yn creu delwedd o’r Dduwies Durga yn Sain Ffagan, 2009
Rhaglen Carnifal Tre-Biwt, Awst 1982