Ymunwch heddiw

Eich ysbrydoli

Ymunwch i ddechrau profi'r gorau sydd gan eich Amgueddfa i'w gynnig.

Mae aelodau yn cael mynediad arbennig at y profiadau, y bobl, y gwrthrychau a’r llefydd sy’n ein gwneud yn deulu unigryw.

Cynnig arbennig

Am gyfnod cyfyngedig, gall Aelodau Teulu Amgueddfa Cymru ddewis manteisio ar gynnig arbennig i ychwanegu Aelodaeth blwyddyn Teulu Cadw hefyd. Pris Aelodaeth ar y Cyd i deulu am flwyddyn i'r ddau sefydliad yw £120, gan ganiatáu mynediad i holl safleoedd Cadw a holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru ledled Cymru a'n helpu i warchod hanesyddol a diwylliant Cymru.

Pam ymuno?

Ymunwch heddiw i ddod yn agosach fyth i'ch Amgueddfa Genedlaethol ar draws pob un o'r wyth safle a dechrau cael buddion eich aelodaeth yn syth bin:

  • Mynediad am ddim i arddangosfeydd sydd rhaid talu amdanynt
  • Gwybodaeth ymlaen llaw am ddigwyddiadau gyda thocynnau a chynnigon arbennig i Aelodau
  • Gostyngiad o 10% i Aelodau yn y siop a’r caffi - gyda chynigion a chyfleoedd siopa arbennig
  • Cylchlythyr digidol misol
  • Cerdyn a llyfryn aelodaeth
  • *Mae opsiynau eraill yn cynnwys ein Cynllun Noddwyr, Cylch y Prif Weithredwr a Chylch y Cadeirydd

Wrth ddod yn aelod, byddwch yn ein helpu i helpu eraill.

Credwn fod gan bawb yr hawl i gael mynediad i'w diwylliant a'u treftadaeth yn rhad ac am ddim. Wedi'r cyfan, mae'r casgliadau cenedlaethol yn perthyn i bobl Cymru.

Aelodaeth Unigol £48 y flwyddyn / Aelodaeth ar y Cyd £60 y flwyddyn / Aelodaeth Teulu £76 y flwyddyn*

Sut i ymuno

Ar-lein

Mewn person yn un o'n hamgueddfeydd

Drwy'r post [PDF]

Dychwelwch y ffurflen i:
Tîm Aelodaeth
Adran Datblygu
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Mae pob aelodaeth yn cyfrif

Drwy ymaelodi rydych yn cefnogi Amgueddfa Cymru i wella ein cyfleusterau, creu arddangosfeydd newydd, cynnal digwyddiadau unigryw, a pharhau i adeiladu'r partneriaethau sy'n ein helpu i Ysbrydoli Pobl a Newid Bywydau.