Casgliadau Celf Arlein
Newyddion Drwg (Y Gwahanu)
TISSOT, James (1836 - 1902)
Dyddiad: 1872
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 68.6 x 91.4 cm
Derbyniwyd: 1882; Cymynrodd; William Menelaus
Rhif Derbynoli: NMW A 184
Ganed Tissot yn Nantes a bu'n astudio ym Mharis, ond treuliodd 1871-82 yn Lloegr. Mae iddo'i le yn y mudiad genre 'Bywyd Modern' Prydeinig yn ogystal ag ar gyrion Argraffiadaeth Ffrengig. Mae hwn yn un o gyfres o ddarluniau a ysbrydolwyd gan gelfyddyd Brydeinig y 18fed ganrif, sy'n ad-drefnu modelau mewn gwisgoedd a phropiau o flaen golygfa a welir drwy ffenestr lydan. Ym 1874 gosododd Tissot ffenestr felly yn ei stiwdio yn Llundain.
sylw - (1)
Titled. The Parting
I note that Bristol museum has also
What are the details about this painting
Thank you