Casgliadau Celf Arlein

Pont Rialto a'r Palazzo dei Camerlenghi

SICKERT, Walter Richard (1860 - 1942)

Dyddiad: c. 1902-04

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 61.2 x 50 cm

Derbyniwyd: 2011; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 29811

Mae’r olygfa hon o Fenis yn arddangos rhai o dechnegau arloesol Sickert, yn enwedig gyda lliw a phersbectif. O edrych yn ofalus, gellir gweld o dan y paent, y grid coch a ddefnyddiodd i gopïo’r ddelwedd i’r cynfas o ddarlun, ysgythriad neu o ffotograff o bosibl. Daw’r cyfosodiad hwn o banorama mwy sy’n ymestyn i ddangos Pont Rialto yn ei chyfanrwydd.

 Gellir gweld arlliw o ddylanwadau artistig Sickert yn y paentiad hefyd. Mae’r donyddiaeth gynnil a’r amlinellu tywyll yn debyg i Nosluniau ac Ysgythriadau Fenisaidd ei fentor cynnar Whistler. Roedd cysylltiad agos rhyngddo â’r Argraffiadwyr Ffrengig hefyd, a gellir cymharu sawl agwedd o’i waith â Palazzo Dario gan Monet (yn yr oriel drws nesaf), a baentiwyd yn ddiweddarach ym 1908.

 Ymddangosodd y gwaith hwn yn arddangosfa unigol bwysig Sickert yn y Galerie Bernheim Jeune ym Mharis, 1904. Y beirniad celf Ffrengig, Adolphe Tavernier oedd perchennog cyntaf y llun. Yn ddiweddarach, bu’n eiddo i Hugo Pitman, casglwr pwysig o gelf Argraffiadol Prydeinig.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Graham Davies Staff Amgueddfa Cymru
24 Hydref 2016, 11:19

Dear James, thank you for your enquiry.
Prints can be purchased from our Print on Demand service from this website.
Thank you for your interest in Amguddfa Cymru,
Graham,
Digital Media

James Wood
23 Hydref 2016, 19:31
I am interested in buying a large print of this painting. Do you sell A1 size colour prints?
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd