Casgliadau Celf Arlein
Y Forwyn a'r Plentyn
CONEGLIANO, Cima da (1459 - 1517)
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 47.5 x 60.3 cm
Derbyniwyd: 1977; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 240
Mae’r Forwyn Fair yn edrych i lawr yn annwyl ar ei mab, gan gwpanu ei droed yn ei llaw mewn ystum cariadus. Mae’r diwnig goch draddodiadol yn cynrychioli gwyryfdod Mair, a’r fantell las yn gyfeiriad at famolaeth. Roedd Cima yn un o brif arlunwyr Fenis ar droad y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg. Datblygodd arddull bersonol yn seiliedig ar Giovanni Bellini, ac o'i waith ef y daw motiffau y canllaw marmor gyda llofnod yr arlunydd ar ddarn o bapur, a'r marchog bychan Twrcaidd yn y cefndir. Gwnaed y llun hwn tua 1500 ac y mae'n un o gyfres o luniau madonna hanner uchder gan yr arlunydd ac yn un o'r enghreifftiau gorau o'i waith.
sylw - (2)
A mother reflecting on what may become of her child in the fullness of time, the hopes, expectations and of course fears.
Brian Armstrong